Allied Health Professionals and Healthcare Scientists Awards Sponsors
The Advancing Healthcare Awards Wales ceremony organised by Chamberlain Dunn will be held on Friday 26 November (3-5pm).
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae'r cynllun gweithredu tymor hir, Cymru Iachach, yn gosod ein gweledigaeth ar gyfer iechyd a gofal integredig. Mae'n annog sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio'n ddi-dor gyda'i gilydd i wella'r ymateb i anghenion lleol.
Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu i helpu i ddechrau'r gwaith trawsnewid, a chaiff y rhain eu cyflawni drwy Raglen Trawsnewid sydd hefyd yn cynnwys Cronfa Trawsnewid. Diben y gronfa yw cyflymu datblygiad modelau newydd dethol o iechyd a gofal cymdeithasol lleol di-dor.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru. Rydym yn rhan o'r GIG, ac yn darparu cyngor a gwasanaethau iechyd cyhoeddus proffesiynol ac annibynnol i gyflawni dyfodol iachach i Gymru. Rydym yn gwneud hyn drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau'r effaith fwyaf o ran gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru saith blaenoriaeth strategol:
• Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd
• Gwella lles meddyliol a gwydnwch
• Hyrwyddo ymddygiadau iach
• Sicrhau dyfodol iach ar gyfer y genhedlaeth nesaf
• Diogelu'r cyhoedd rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol i iechyd
• Cefnogi datblygiad system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar ataliaeth ac ymyrraeth gynnar
• Adeiladu a pharatoi gwybodaeth a sgiliau i wella iechyd a llesiant ledled Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn https://icc.gig.cymru/amdanom-ni/
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydliad rhwydwaith, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, sy'n dod ag ystod eang o bartneriaid ledled y GIG yng Nghymru, prifysgolion a sefydliadau ymchwil, awdurdodau lleol, ac eraill, ynghyd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos ag asiantaethau eraill y llywodraeth ac arianwyr ymchwil (yng Nghymru a ledled y DU), partneriaid mewn diwydiant, cleifion, y cyhoedd, a rhanddeiliaid eraill.
Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i hyrwyddo ymchwil i glefydau, triniaethau, gwasanaethau a chanlyniadau sy'n gallu arwain at ddarganfyddiadau ac arloesiadau sy'n gallu gwella a hyd yn oed achub bywydau pobl. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn https://ymchwiliechydagofalcymru.org/amdanom-ni
Sefydlwyd Attend Anywhere ym Melbourne yn 1998 ac mae wedi bod yn newid y ffordd y caiff gofal iechyd ei gyflenwi ers hynny.
Mae'r cwmni wedi bod ar flaen y gad wrth ddefnyddio technoleg fideo yn y sector iechyd ers sawl blwyddyn, gan gydweithio â llywodraethau, ysbytai a systemau iechyd wrth helpu i gynnig yr opsiwn i gleifion fynychu apwyntiadau ar-lein, drwy alwad fideo o safon.
Yn fwy na thechnoleg, mae Attend Anywhere yn cynnig model a fframwaith galluogi sydd wedi newid dros flynyddoedd o gydweithio â chlinigwyr, gwasanaethau iechyd, colegau meddygol, llywodraethau a phrifysgolion. Mae'n mynd i'r afael â rhwystrau i raddfa a chynaliadwyedd, sy'n ymwneud yn bennaf â gweithrediadau, pobl, ac integreiddio prosesau, yn hytrach na fod yn dechnegol.
Mae ein rhaglenni ymgynghori ar fideo yn cynnwys yr holl agweddau ar ddatblygu a chyflawni gwasanaethau, o ddyluniad clinigol a gweithredol, gan gynnwys hygyrchedd, ymarferoldeb, ansawdd, a’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion, hyd at ddyluniad a datblygiad technegol.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Ers ei sefydlu ar 1 Hydref 2018, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw’r unig Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru. Rydym yn sefyll law yn llaw â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ac yn chwarae rhan flaenllaw ym maes addysg, hyfforddiant, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel ar gyfer pobl Cymru.
If you are interested in finding out more about the awards or becoming a sponsor, please contact Alison - ali@chamberdunn.co.uk